Mae lansiad Hyb Diogelu Amlasiantaethol Caerdydd (MASH) wedi rhoi hwb sylweddol i ddiogelu ac amddiffyn y bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd.
Daeth y gwasanaeth integredig hwn yn weithredol ym mis Medi, ac mae’n efelychu projectau peilot eraill sydd eisoes yn llwyddiannus ledled y DU.
Ceir 45 aelod o staff; swyddogion heddlu, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion lles addysg, nyrsys a swyddogion y gwasanaeth prawf, o sefydliadau megis Heddlu De Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru. Mae’r gwasanaethau hyn bellach yn cydweithio mewn swyddfa agored yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Lent, Dirprwy Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd a’r Aelod Cabinet dros y Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd: “Mae diogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed yn y gymuned mewn ffordd effeithiol yn dibynnu ar sawl asiantaeth yn cydweithio.
“Mae agoriad Hyb Diogelu Amlasiantaethol Caerdydd yn bwysig iawn. Mae’n cynyddu gallu diogelu’r ddinas, gan ategu at a chryfhau ein gallu i ddiogelu’r bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd fel bod modd iddynt fyw bywydau mwy diogel. Mae hynny’n flaenoriaeth i bob un o’n sefydliadau.”
Staff y MASH yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer eu cydweithwyr rheng-flaen, ac maen nhw’n delio gyda miloedd o atgyfeiriadau diogelu gan unrhyw weithiwr proffesiynol sydd â phryder ynglŷn â diogelu.
Mae cydleoli staff yn sicrhau bod yr asiantaethau’n gweithio fel tîm i rannu gwybodaeth a gwella asesu, rheoli risgiau’n effeithiol a gwneud penderfyniadau’n brydlon er mwyn diogelu plant, oedolion a dioddefwyr cam-drin domestig.
Dywedodd Belinda Davies, Prif Uwch-arolygydd Heddlu De Cymru: “Mae diogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed yn y gymuned mewn ffordd effeithiol yn dibynnu ar sawl asiantaeth yn cydweithio, ac mae hanes wedi amlygu’r angen i fynd ar ôl adolygiadau achos difrifol.
“Bydd hyn yn newid diwylliant o ran diogelu yn y brifddinas, ac rydym yn hyderus iawn y bydd yn ategu ac yn cryfhau ein gallu i ddiogelu ac amddiffyn y bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas fel bod modd iddyn nhw fyw bywydau mwy diogel – mae hynny’n flaenoriaeth i bawb.”
Bydd gweithio mewn amgylchedd mwy integredig yn cynorthwyo diogelu mewn sawl ffordd.Bydd prosesau rhannu gwybodaeth yn cael eu gwella, sy’n golygu bod modd gwneud penderfyniadau ynghylch ymyriadau critigol ac ar y cyd mewn modd amserol.
O ran pryderon ynghylch unigolion a theuluoedd y mae angen ymyrraeth arnynt, gall asiantaethau yn y MASH a’r tu allan iddo gasglu gwybodaeth o’u ffynonellau eu hunain a chreu darlun mwy llawn o amgylchiadau pob achos a’r risgiau cysylltiedig i’r plentyn neu’r oedolyn neu bryder cam-drin domestig risg uchel. O ganlyniad, caiff penderfyniadau mwy call eu gwneud yn syth am y camau gweithredu y dylid eu cymryd, ac mae’r cymorth wedi’i dargedu at yr achosion brys.
Dywedodd Belinda Davies: “Mae’r MASH wedi bod yn weithredol ers mis Medi, ac rydym eisoes wedi gweld llawer o fuddion o ran diogelu. Mae gwasanaeth diogelu ‘trwy’r drws’ yn symleiddio’r broses o wneud atgyfeiriadau, sydd wedi arwain at fwy o atgyfeiriadau, sy’n beth da iawn wrth gwrs. Mae cydleoli corfforol ac integreiddio staff gwahanol a threfnu platfform gwybodaeth ar y cyd yn galluogi gwybodaeth i gael ei rhannu a’i chasglu’n effeithlon rhwng partneriaid. Mae hyn wedi chwalu rhwystrau hanesyddol o ran gwasanaeth diogelu syml, a bydd y bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd yn elwa o hynny.”
Dechreuodd y gwaith cynllunio ar gyfer MASH Caerdydd ym mis Gorffennaf 2015, gyda’r staff yn cael eu lleoli yn yr un lle ym mis Gorffennaf 2016. Aeth y gwasanaeth yn ‘Fyw’ ar ôl lansiad ysgafn ym mis Medi, lle cafodd arferion a gweithdrefnau eu hymgorffori.
Comments are closed.