Plant mewn Adloniant
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol fod plant sy’n cymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus neu chwaraeon, neu’n gweithio ar raglenni teledu, ffilmiau neu fel modelau, dan drwydded gan yr awdurdod lleol.
Mae hyn yn cynnwys Plant o oedran ysgol statudol ac iau, gan gynnwys babanod.
Ceir mwy o wybodaeth ar Wefan y Cyngor .
Trwyddedu Gwarchodwyr
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol bod plant sy’n cymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus neu chwaraeon, neu’n gweithio ar raglenni teledu, ffilmiau, neu fel modelau, dan drwydded gan yr awdurdod lleol, yn cael eu goruchwylio gan Warchodwr y mae’r cyngor wedi’i gymeradwyo, oni bai bod rhiant, gofalwr cyfreithiol neu, mewn amgylchiadau arbennig, athro yn gofalu amdanynt.
Ceir mwy o wybodaeth ar Wefan y Cyngor .
Plant mewn Cyflogaeth Ran Amser
Gall plant 13 oed neu hŷn sydd o oedran ysgol gorfodol weithio ar ôl ysgol, ar benwythnosau neu yn ystod gwyliau’r ysgol mewn swyddi penodol.
Os yw plentyn yn gweithio, p’un a yw’r gyflogaeth â thâl neu beidio, rhaid cael trwydded weithio gan yr awdurdod lleol lle mae’r gyflogaeth.
Ceir mwy o wybodaeth ar Wefan y Cyngor .
Plant mewn Cyflogaeth
Oeddech chi’n gwybod bod plant rhwng 13 a 16 oed yn gallu gweithio neu wirfoddoli’n rhan-amser? Gall annog plant i gael profiad o amgylcheddau gwaith ddysgu gwersi cadarnhaol iddynt am gyfrifoldeb, annibyniaeth a datblygu sgiliau a fydd yn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, ond mae’n bwysig eu cadw’n ddiogel a sicrhau nad ydynt yn cael eu hecsbloetio. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: Caerdydd a Bro Morgannwg Plant mewn Cyflogaeth (PDF)
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Tîm Diogelu Addysg ar 02922 220877 SLLSSafeguardingTeamInformation@caerdydd.gov.uk