Dydd Llun 16 – Dydd Gwener 20 Tachwedd
Mae Wythnos Diogelu Cenedlaethol yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir ym mis Tachwedd. Nod yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth am faterion diogelu ac atgyfnerthu’r neges bod ‘diogelu’n gyfrifoldeb ar bawb’.
Bydd thema rhanbarthol eleni yn canolbwyntio ar Allgáu Cymdeithasol.
Rhaglen Ddigwyddiadau Wythnos Ddiogelu
Mae’r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol yn gyfle i godi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol, a’r gymuned hefyd, drwy gynnal cyfleoedd hyfforddi, digwyddiadau codi ymwybyddiaeth neu hyd yn oed stondinau gwybodaeth.
Mae’r Rhaglen Derfynol o Ddigwyddiadau yn darparu manylion y gweithgareddau sy’n digwydd yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Diogelu a sut y gallwch archebu lle.
Mai 25 Tachwedd yn ddiwrnod ‘Dileu trais yn erbyn menywod a merched’ y Cenhedloedd Unedig. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel y ‘Diwrnod Rhuban Gwyn’. Rydym wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar-lein rhwng 23 Tachwedd – 10 Rhagfyr 2020 i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a’r gwasanaethau ac ymyriadau sydd ar gael ledled y rhanbarth i ddioddefwyr, goroeswyr ac i’r rhai sy’n cyflawni niwed.
Mae’r ddolen i’r Calendr Digwyddiadau yma: Calendr Digwyddiadau Rhuban Gwyn 2020
Strategaeth Gyfathrebu
Yn y ddogfen Strategaeth Gyfathrebu rydym wedi ymgorffori Postiadau Cyfryngau Cymdeithasol i’w cylchredeg yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Diogelu.
Cyfeiriaduron Adnoddau
Rydym wedi cydymffurfio â cyfeiriaduron adnoddau sy’n cynnwys yr holl ddogfennau/taflenni/posteri/canllawiau perthnasol mewn perthynas ag Iechyd Meddwl a Lles, Diogelwch Ar-lein, Cam-drin Domestig, Diogelu Cyd-destunol a Diogelu Oedolion. Mae croeso i chi ledaenu’r wybodaeth hon mor eang â phosibl.
Iechyd Meddwl a Lles a Diogelu Oedolion
Diogelu Cyd-destunol a Cham-drin Domestig
Comments are closed.