Eich cyfrifoldebau chi o ran diogelu plant
Fel gweithiwr proffesiynol cyfrifol, mae rhwymedigaeth arnoch i hybu iechyd a lles plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys eich cyfrifoldeb unigol i sicrhau, os oes gennych unrhyw wybodaeth, bryderon neu amheuon bod plentyn yn dioddef, wedi dioddef neu’n debygol o wynebu’r risg o niwed, eich bod yn rhoi gwybod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r Heddlu am hynny. Nid yw hyn yn fater o ddewis unigol.
Mae cydweithio a chydgyfathrebu yn elfennau hanfodol eraill o ddiogelu’r plant a’r bobl ifanc rydym yn gweithio gyda hwy yn effeithiol. Rôl y Bwrdd Lleol Diogelu Plant yw sicrhau bod asiantaethau partner yn cydweithio’n dda gyda’i gilydd ac yn cyflawni eu cyfrifoldebau yn unol â Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan
.
Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu saith nod craidd, fel y’u nodwyd yn ‘Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu’r Hawliau 2004′
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau’r canlynol i holl blant Cymru:
- yn cael dechrau da mewn bywyd.
- yn cael ystod gynhwysfawr o gyfleoedd addysg a dysg.
- yn mwynhau’r iechyd gorau posib, yn rhydd o gamdriniaeth, erledigaeth ac ecsploetiaeth.
- yn gallu cael mynediad at weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol.
- yn cael eu trin gyda pharch, yn cael pobl i wrando arnynt, gan gydnabod eu hil a’u hunaniaeth ddiwylliannol.
- yn byw mewn cartref a chymuned ddiogel sy’n cefnogi lles corfforol ac emosiynol.
Cyfrifoldeb Statudol
Mae’r asiantaethau partner a restrwyd yn Neddf Plant 2004
yn rhannu’r dyletswydd statudol ar gyfer diogelu ac amddiffyn lles plant, ac mae dyletswydd ar bob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio i’r asiantaethau hynny i roi gwybod am bryderon.
- Rhaid rhoi gwybod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r Heddlu am achosion a ddrwgdybir o gam-drin plentyn, a bydd ganddynt hwy, ynghyd â NSPCC, bwerau statudol i ymchwilio i achosion a ddrwgdybir o gam-drin.
- Rhaid i asiantaethau beidio â chynnal eu hymchwiliadau diogelu plant mewnol eu hunain. Yn hytrach, dylent roi gwybod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r Heddlu am eu pryderon.
- Os yw’r pryderon yn ymwneud ag aelod o staff, rhaid i asiantaethau beidio â gwneud eu penderfyniadau eu hunain o ran p’un a yw’n fater disgyblu neu’n fater diogelu plant. Rhaid cyfeirio’r pryderon hyn i’r Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r Heddlu.
- Mae gan yr Heddlu bwerau statudol a chyfrifoldeb i benderfynu p’un ai i gynnal ymchwiliad troseddol.
- Dylai fod gan bob asiantaeth sy’n gweithio gyda phlant weithdrefnau recriwtio a dethol cadarn. Mae canllawiau ychwanegol ar gael yn y ddogfen Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004.