Mae nifer o sefydliadau, rhwydweithiau a grwpiau cymorth sy’n gweithio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sy’n gallu cynnig help a chyngor. Rhestrir rhai o’r rhain isod.
Sefydliadau ar gyfer Caerdydd yn benodol:
- Mae StaySafe yn broject amlasiantaethol sydd â’r nod o sicrhau diogelwch pobl ifanc yng Nghaerdydd gyda’r nos. Mae’r tîm yn helpu i gadw pobl ifanc yn ddiogel, ac yn eu haddysgu o ran ymddygiad peryglus. Ceir Tudalen Facebook StaySafe
- Ar gyfer plant oedran ysgol, mae Caerdydd yn Erbyn Bwlio yn gweithio gyda phlant sy’n cael eu bwlio yn ogystal â’r sawl sy’n bwlio er mwyn torri’r cylch bwlio. Ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan www.cardiffagainstbullying.co.uk .
- Gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Caerdydd fod eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gwybodaeth am wasanaethau lleol i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Ewch i’w wefan www.childcareincardiff.info/fis
- Mae The Sprout yn wefan ryngweithiol sy’n annog creadigrwydd a chyfranogiad uniongyrchol tra’n rhoi gwybodaeth am y gweithgareddau a’r gwasanaethau sydd ar gael i bob person ifanc yng Nghaerdydd. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.thesprout.co.uk
- Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu cyfleoedd a phrofiadau diddorol, heriol a chreadigol. Ewch i’w wefan www.caerdydd.gov.uk/ieuenctid
Sefydliadau ar gyfer Bro Morgannwg yn benodol:
- Gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Fro fod eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gwybodaeth am wasanaethau lleol i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Ewch i’w wefan www.valeofglamorgan.gov.uk/fis
- Nod Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg yw rhoi’r cyfleoedd, y cymorth a’r wybodaeth sydd eu hangen ar bobl ifanc i gyflawni eu potensial. ewch i’w wefan
- Nod gwasanaeth Gwrth-fwlio’r Fro yw pennu dull gweithredu cydlynol a chyson o ymdrin â bwlio yn ysgolion a lleoliadau ieuenctid a chymunedol Bro Morgannwg. Ewch i www.valeofglamorgan.gov.uk/bullying
Ceir nifer o sefydliadau cenedlaethol sy’n gweithio i helpu plant hefyd, a gallant gynnig cyngor a chymorth o ran materion gwahanol.
Eich Meddyg – Gall eich meddyg teulu helpu â phroblemau iechyd. Gall yr ymwelydd iechyd neu nyrs iechyd yr ysgol eich helpu gyda phroblemau o’r fath hefyd. Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau iechyd sy’n gweithredu yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ar gael yma www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/home
Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol – os ydych yn poeni am broblem alcohol neu gyffuriau, mae gwasanaeth camddefnyddio sylweddau ar gael i bobl ifanc yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Gall nyrsys y gwasanaeth camddefnyddio sylweddau gyflawni ymyriadau, cynorthwyo ac addysgu pobl ifanc, eu cyfeirio i wasanaethau gwahanol a chynnig cyngor i rieni a gofalwyr. Gellir cysylltu â hwy’n uniongyrchol ar 029 2090 7675 neu 029 2090 7678.
Nod Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein yw dileu cam-drin plant yn rhywiol. Maent yn cynnig cyngor ac yn helpu i ddiogelu plant a phobl ifanc, yn enwedig ar-lein. Gwefan y ganolfan yw www.ceop.police.uk ac mae cynnwys adrannau penodol ar gyfer rhieni a gofalwyr yn ogystal â phlant a phobl ifanc.
Barnardo’s Cymru – yn darparu 88 o wasanaethau ledled y wlad gan weithio gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau sy’n agored i niwed, a’u helpu i sicrhau dyfodol gwell. Mae pob gwasanaeth Barnardo’s yn wahanol, ond mae pob un ohonynt yn credu ym mhotensial pob plentyn a pherson ifanc, ni waeth pwy ydynt, beth maent wedi’i wneud neu beth maent wedi’i wynebu. www.barnardos.org.uk/what_we_do/barnardos_today/wales.htm
Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant – Mae’r NSPCC yn amddiffyn plant ledled y DU. Maent yn cynnig ystod eang o wasanaethau i blant ac oedolion, gan gynnwys llinellau cymorth cenedlaethol a phrojectau lleol. www.nspcc.org.uk
Meic – llinell eiriolaeth, wybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Os ydych yn cael trafferthion neu os oes problem gennych ac rydych angen siarad â rhywun neu gysylltu â rhywun, mae gwasanaeth MEIC ar gael i chi. Mae rhagor o wybodaeth am MEIC ar gael yma www.meiccymru.org/about.php . Gallwch siarad â Meic 24/7 dros y ffôn, drwy negeseuon testun a gwasanaeth sgwrsio sydyn ar-lein
Young Minds – gall y gwasanaeth hwn gynnig cyngor i blant os ydych yn isel eich ysbryd neu’n bryderus. YoungMinds yw prif elusen y DU sy’n ymrwymedig i wella lles emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Maent hefyd yn rhoi gwybodaeth arbenigol i weithwyr proffesiynol, rhieni a phobl ifanc drwy Linell Gymorth i Rieni, adnoddau ar-lein, hyfforddiant a datblygu, gwaith allgymorth a chyhoeddiadau. www.youngminds.org.uk
TheSite.org – canllaw ar-lein i fywyd i bobl ifanc 16-25 oed yn y DU. Maent yn cynnig cymorth a gwybodaeth anfeirniadol ar bob math o faterion, gan gynnwys rhyw, straen arholiadau, dyledion a chyffuriau. www.thesite.org
Teenage Health Freak – mae’r wefan hon yn cynnig gwybodaeth gywir a dibynadwy am iechyd i’r glasoed mewn ffordd gyfoes, diffwdan, difyr ac addysgiadol. Mae’r wefan hon yn cynnwys toreth o wybodaeth am gam-drin mewn perthnasau, cyffuriau, ysmygu, perthnasau a rhyw, a gallwch gyflwyno cwestiynau i’r safle hefyd. www.teenagehealthfreak.org