Cuddio Tudalen Hon
Darllenwch ein cyngor diogelu ar gyfer yr argyfwng Covid-19: Plant | Oedolion

Croeso i wefan Bwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg

Crëwyd y wefan hon i’w gwneud yn hawdd i chi gael gwybodaeth am ddiogelu oedolion ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae gan y wefan bob math o wybodaeth, cyngor a chanllawiau i bobl a allai fod yn profi neu mewn perygl o brofi cam-drin, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ag anghenion iechyd neu ofal cymdeithasol. Bydd y wefan yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar ba gymorth sydd ar gael a sut i roi gwybod am bryderon fel y gallwn gydweithio i helpu i gadw oedolion yn rhydd rhag cam-drin ac esgeuluso.

Mae hefyd ardal benodedig i weithwyr proffesiynol, sy’n cynnig pob math o wybodaeth a chanllawiau ar ddiogelu’r oedolion sy’n defnyddio eu gwasanaethau.

Caiff y wefan ei chynnal a’i diweddaru’n rheolaidd i sicrhau bod y wybodaeth arni yr orau sydd i’w chael.

Newyddion

Wythnos Genedlaethol Diogelu 2023

Mae Wythnos Ddiogelu Genedlaethol eleni yn cael ei chynnal rhwng 13 – 17 Tachwedd. Thema’r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol eleni yw “Gamfanteisio”. Mae’r Rhaglen Ddigwyddiadau ar gael yma. #DiogeluCymru
Cardiff Council Logo
Vale of Glamorgan Council logo
National Probation Service logo
NHW Wales logo
South Wales Police logo
Probation Service Wales
Yn cydweithio i ddiogelu oedolion mewn perygl o gam-drin ac esgeuluso

© BDLP - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd