Cuddio Tudalen Hon
Darllenwch ein cyngor diogelu ar gyfer yr argyfwng Covid-19: Plant | Oedolion

Gweithdrefnau Diogelu Cymru (Plant)

Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Lansiwyd Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn ystod yr Wythnos Ddiogelu Genedlaethol ar 11 Tachwedd 2019 ac maent wedi disodli Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan a Pholisi a Gweithdrefnau Interim Cymru ar gyfer Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed rhag Camdriniaeth.

 

Nid yw Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gael fel copïau print, maent ar gael ar ffurf ddigidol yn unig. Mae app Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gael i’w lawrlwytho ar gyfer dyfeisiau iPhone ac Android, ar yr Apple App Store a Google Play Store. Gellir eu gweld hefyd yn y Gymraeg neu’r Saesneg trwy ddilyn y linciau canlynol:

www.diogelu.cymru

www.safeguarding.wales

Mabwysiadodd Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro y gweithdrefnau yn ffurfiol ym mis Rhagfyr 2019 ac maent wedi datblygu rhaglen weithredu, a fydd yn cynnwys manylion am hyfforddiant a datblygu polisïau perthnasol.

 

Hyfforddiant Rhanbarthol Aml-asiantaethol

Cafodd Digwyddiadau Hyfforddi’r Hyfforddwr eu cyflwyno gan New Pathways ddechrau mis Chwefror. Enwebodd aelodau BDRh Caerdydd a’r Fro ymarferwyr i fynychu ar y disgwyliad y byddent yn gallu cyflwyno’r hyfforddiant i’w sefydliad unigol a hefyd i gynulleidfa amlasiantaeth ar ran BDRh Caerdydd a’r Fro.

Bydd dyddiadau’r hyfforddiant cyflwyno pellach yn cael eu cadarnhau yn y dyfodol agos.

 

Gofal Cymdeithasol Cymru Mae deunyddiau hyfforddi i gefnogi Gweithdrefnau Diogelu Cymru bellach ar gael drwy glicio ar y ddolen isod:

Safeguarding procedures – training materials (Children) | Hyb Gwybodaeth a Dysgu (gofalcymdeithasol.cymru)
Mae’r deunyddiau wedi’u gwahanu’n ddwy ran, plant a phobl ifanc ac oedolion ac yn dilyn yr adrannau a nodir yn Rhaglen Cymru ar gyfer Cymru. Mae pob adran yn cynnwys cyflwyniadau PowerPoint, nodiadau hyfforddwr, awgrymiadau ar gyfer taflenni ymarfer a senarios ymarfer.

 

Y Camau Nesaf

Byddwch yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a byddwch yn cael diweddariadau rheolaidd drwy gylchlythyr ‘Y Wybodaeth Ddiweddaraf’ Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro (BDRh Caerdydd a’r Fro). Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael drwy’r ‘sesiwn friffio 7 munud’.

Gweithdrefnau Diogelu Cymru – Briffio 7 munud – Ionawr 2020

 

Eich Cadw’n Wybodus – Cylchlythyr

Bydd y canllawiau cyflym canlynol yn rhoi gwybodaeth i ymarferwyr am y newidiadau allweddol mewn Diogelu Plant ac Oedolion:

GDG ‘Beth sy’n wahanol?’ Canllaw Cyflym i Diogelu Plant

GDG ‘Beth sy’n wahanol?’ Canllaw Cyflym i Diogelu Oedolion

Os oes gennych gwestiynau, e-bostiwch CardiffandValeRSB@caerdydd.gov.uk

© BDLP - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd