Fel rhywun sy’n gofalu am blentyn, gwyddoch y gall bywyd teuluol hapus a chariadus gael effaith gadarnhaol ar blant. Yn anffodus, nid yw pob plentyn yn cael yr un cyfleoedd yn y blynyddoedd cynnar.
Er bod y rhan fwyaf o blant ledled Cymru yn hapus ac yn iach, gwyddom fod gormod o blant nad ydynt felly, felly mae angen help pawb arnom i nodi’r plant hyn mor gyflym â phosibl, a mae hyn yn golygu bod angen eich help chi arnom i gyflawni hyn.
Adnabod yr arwyddion
Mae cyfrifoldeb ar bawb i roi gwybod am unrhyw wybodaeth, pryderon neu amheuon bod plentyn yn dioddef, wedi dioddef neu’n debygol o wynebu’r risg o niwed. Dylech sicrhau bod unrhyw bryderon sydd gennych yn cael eu cyfeirio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r Heddlu, sydd â dyletswyddau a phwerau statudol i wneud ymholiadau ac ymyrryd pan fo angen. Nid yw hyn yn fater o ddewis unigol.
Dyma rai o’r arwyddion mwyaf cyffredin* o gam-drin i gadw llygad amdanynt:
- Wedi encilio o fywyd bob dydd
- Colli neu fagu pwysau sylweddol
- Ymddwyn mewn ffordd anarferol mewn lleoliadau cymdeithasol
- Effaith ar bresenoldeb ysgol
- Cleisiau neu anafiadau rheolaidd nas esboniwyd
- Yn ofni oedolion
*Nid yw’r arwyddion bob tro yn deillio o achosion o gam-drin neu esgeulustod, a nid dyma’r unig arwyddion o gam-drin.
Os oes unrhyw bryderon gennych am les plentyn, rhowch wybod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol