Os ydych chi’n credu bod y plentyn neu’r oedolyn agored i niwed mewn perygl, cysylltwch â’r Heddlu ar 999.
Dylech weithredu os oes pryderon gennych ynghylch iechyd neu les plentyn. Hyd yn oed os yw eich pryderon yn ymddangos yn rhai bach i chi, dylech roi gwybod i’r awdurdodau perthnasol amdanynt. Caiff pob adroddiad eu trin fel mater difrifol, a gweithredir arnynt â sensitifrwydd. Cymerir camau i ddiogelu plant sy’n wynebu perygl uniongyrchol.
Mae gan bob plentyn yr hawl i gael ei amddiffyn, ni waeth beth fo’i hil, ethnigrwydd, crefydd neu gefndir economaidd-gymdeithasol. Mewn achosion lle yr ymddengys fod gwrthdaro buddiannau rhwng amddiffyn y plentyn ac amddiffyn y gymuned/sefydliad crefyddol, rhaid rhoi blaenoriaeth i amddiffyn y plentyn.