Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
Mae camfanteisio’n rhywiol yn ffurf gudd ar gam-drin plant, ac mae’n drosedd. Mae CRhB yn cynnwys twyllo, cymell neu ddylanwadu ar fechgyn a merched i gyflawni gweithredoedd rhywiol. Mae’n annhebygol y bydd plant sy’n dioddef o gamfanteisio rhywiol yn dweud wrth oedolion am yr hyn sy’n digwydd. Gallai hyn fod oherwydd nad ydynt yn meddwl bod unrhyw beth o’i le neu gan fod ofn arnynt.
Gallai’r camdriniwr roi pethau fel alcohol, cyffuriau neu roddion fel esgidiau newydd a gemwaith i blant. Gallai’r camdriniwr hefyd ddenu plant drwy eu hargyhoeddi eu bod mewn perthynas. Ni all plentyn weld ei fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhyw am fod y sawl sy’n cam-drin wedi ei dwyllo neu â gafael drosto mewn rhyw fodd. Er enghraifft, gallai fod llun anweddus ganddo o’r plentyn y mae’n ei ddefnyddio i’w fygwth a gwneud iddo ddilyn ei orchmynion. Gall y paratoi amhriodol a’r gamdriniaeth ddechrau ar-lein cyn digwydd wyneb yn wyneb, a gall ddigwydd o fewn grwpiau o ffrindiau o oedran tebyg.
Mae’r camdrinwyr hyn yn gwybod sut mae targedu plant sy’n agored i niwed a sut mae cysylltu â nhw ac ennill eu ffydd. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i blant sy’n dioddef o gamfanteisio ddeall beth sy’n digwydd iddyn nhw. Gallai ymddangos fel petai plant yn eu rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus, ond mewn gwirionedd maent yn cael eu targedu, eu rheoli, eu dylanwadu a’u defnyddio.