Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro
Mae’r Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol yn bartneriaeth Amlasiantaeth sy’n gyfrifol am weithio ar y cyd i oruchwylio diogelwch a lles plant a phobl ifanc ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae ar y wefan wybodaeth, cyngor a chanllawiau i’r cyhoedd, plant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n dod i gysylltiad â phlant a’u teuluoedd drwy eu swyddi.
Nod y wefan yw helpu asiantaethau, sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, gan gynnwys teuluoedd a rhieni yn ogystal ag aelodau o’r gymdeithas ehangach, i gadw ein plant a phobl ifanc yn ddiogel.