Strwythur y Bwrdd
Lawrlwythwch Strwythur y Bwrdd (115kb PDF)
Caiff gwaith y Bwrdd Diogelu Plant ei yrru gan nifer o is-grwpiau sy’n cwrdd bob chwarter. Mae’r is-grwpiau a disgrifiad o’u diben isod:
Grŵp Cynllunio Busnes Plant
Mae’r Grŵp Cynllunio Busnes yn allweddol i effeithiolrwydd cyffredinol y Bwrdd Diogelu o ran cyflawni ei amcanion. Bydd y grŵp yn sicrhau bod blaenoriaethau’r Bwrdd a gwaith yr Is-grwpiau yn cael eu dwyn ymlaen.
Cylch Gorchwyl Cynllunio Busnes (137kb PDF)
Is-grŵp Archwilio Plant
Nod y grŵp yw gwella canlyniadau i plant ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg, drwy fonitro effeithiolrwydd y cydlynu rhwng asiantaethau wrth gyflawni eu cyfrifoldebau diogelu drwy weithredu dull archwilio amlasiantaeth.
Cylch Gorchwyl Is-grŵp Archwilio Plant (245kb PDF)
Is-grŵp Hyfforddiant ar y Cyd
Bydd y grŵp yn gweithio ar ran y Bwrdd Diogelu i sicrhau bod hyfforddiant o safon uchel ar faterion diogelu plant ac oedolion ar gael ac yn cael ei roi i asiantaethau statudol, gwirfoddol ac annibynnol.
Cylch Gorchwyl Is-grŵp Hyfforddi (133kb PDF)
Is-grŵp Polisïau, Gweithdrefnau a Phrotocolau ar y Cyd
Bydd y grŵp yn cyfrannu at lunio ac adolygu polisïau a gweithdrefnau i gydlynu’r hyn a wna partneriaid ac aelodau’r Bwrdd, at ddibenion diogelu oedolion a phlant ac atal cam-drin, esgeuluso a ffurfiau eraill ar niwed i oedolion a phlant yn ardal y Bwrdd. Bydd y grŵp hefyd yn sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol yn cael eu monitro a’u bod yn addas at y diben.
Cylch Gorchwyl Is-grŵp Polisïau,Gweithdrefnau aPhrotocolau (307kb PDF)
Is-grŵp CPR/APR ar y Cyd
I weithredu gofynion statudol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, drwy ystyried a yw’r achosion a atgyfeirir yn bodloni meini prawf bod yn destun Adolygiad Arfer Oedolion/Plant. Bydd y grŵp hefyd yn monitro unrhyw gynlluniau gweithredu sy’n deillio o adolygiadau ymarfer i sicrhau eu bod yn cael eu datblygu. Caiff dysgu sy’n deillio o adolygiadau ei ddosbarthu.
Cylch Gorchwyl Is-grŵp CPR/APR ar y Cyd (128kb PDF)
Is-grŵp Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar y Cyd
Sicrhau bod y cysylltiadau rhwng Byrddau Diogelu Rhanbarthol a’r gymuned yn cael eu hatgyfnerthu. Bydd hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth a chydlynu gweithgareddau cynnwys y cyhoedd wrth ymgynghori â phlant, oedolion mewn perygl, eu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ar faterion sy’n ymwneud â diogelu.