Cuddio Tudalen Hon
Darllenwch ein cyngor diogelu ar gyfer yr argyfwng Covid-19: Plant | Oedolion

Diogelu ein cymunedau yn ystod COVID19

Diogelu ein cymunedau yn ystod  COVID19

Mae diogelu oedolion a phlant mewn perygl yn parhau i fod yn flaenoriaeth ledled Caerdydd a Bro Morgannwg ac mae partneriaid diogelu wedi bod yn gweithio i roi modelau gweithredu diwygiedig ar waith sy’n ein galluogi i gydymffurfio â Chyngor y Llywodraeth a dal i ddarparu gwasanaeth diogelu ac ymateb i’r rhanbarth.

Mae Bwrdd Diogelu Caerdydd a’r Fro yn gofyn i bawb yn y rhanbarth ofalu am ei gilydd er mwyn helpu’r rheini a allai fod mewn perygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Mae hon yn neges sy’n berthnasol bob amser, ond nawr yn fwy nag erioed, mae angen amddiffyn pobl o bob oed.

“Rydym yn byw mewn cyfnod nas gwelwyd ei debyg o’r blaen o ganlyniad i’r Coronafeirws, gydag ymbellhau cymdeithasol a hunanynysu yn un o’r negeseuon a’r cyngor allweddol sy’n cael eu darparu gan y Llywodraeth.

“Er y bydd hyn yn sicr yn helpu i atal lledaeniad y firws, yn anffodus, bydd hyn hefyd yn golygu y gallai plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl yn ardaloedd Caerdydd a Bro Morgannwg fod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso.

Rydym yn gofyn i bawb, yn ystod y cyfnod ansicr hwn, i fod yn wyliadwrus ac edrych allan am ffrindiau, teuluoedd a chymdogion ac os ydych yn gweld unrhyw arwyddion o gwbl sy’n gwneud i chi feddwl y gallent fod yn dioddef unrhyw fath o niwed, rhowch wybod i’ch timau diogelu lleol.

 

Os oes gennych bryderon am oedolyn mewn perygl:

Gwasanaethau Oedolion Bro Morgannwg:

01446 700111

Y tu allan i oriau swyddfa

02920 788570

 

Diogelu Oedolion Caerdydd:

02922 330888

Y tu allan i oriau swyddfa

02920 788570

 

Canllawiau Cenedlaethol a Diweddariadau

Deddf Coronafeirws 2020

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ymgyrch Lles COVID-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Public Health Wales Updates:

Publih Health Wales COVID-19 update

Public Health Wales COVID-19 Wellbeing  Campaign

 

Y Diweddaraf gan Lywodraeth Cymru

Ewch i GOV.Wales

Datganiad Ysgrifenedig: Lansio Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc 

Gwasanaethau cymdeithasol oedolion yn ystod pandemig COVID-19: canllawiau

Canllawiau ar gyfer darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn ystod pandemig COVID-19 

Byw Heb Ofn – diweddarwyd ym mis Hydref 2020

 

Canllawiau Rhanbarthol a Diweddariadau

Statws a Diweddariad ar y Trefniadau Diogelu

Briff 7 munud Sgamiau a Thwyll

Briff 7 munud Cam-drin Domestig

 

Gwybodaeth i Weithwyr Proffesiynol

COVID-19 – Diogelu Plant – taflen i ymarferwyr

COVID-19 – Diogelu Plant – Gwybodaeth Ddwyieithog 

Pecyn goroesi COVID-19 Pobl Ifanc

COVID-19 Safeguarding adults- practitioner handout welsh

Gwybodaeth i’r cyhoedd

Cyngor a Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Lles

Cyngor a Gwasanaethau Cam-drin Domestig

Bwletin diweddaraf Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Fro , yn rhoi manylion ar y newyddion, yr help a’r cymorth amrywiol sydd ar gael ym Mro Morgannwg.

 

Adnoddau

Pecyn goroesi COVID-19 Pobl Ifanc

Sut i gael help mewn argyfwng iechyd meddwl

Gov.wales stay safe infographic

Dolenni i Adnoddau:

Y Gwasanaeth Lles Teulu yng Nghaerdydd Ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i deuluoedd sy’n byw yng Nghaerdydd gyda phlant hyd at 25 oed ac sydd ag angen a nodwyd am gefnogaeth mewn perthynas ag iechyd a lles emosiynol a meddyliol. Gellir atgyfeirio trwy Borth atgyfeirio Cymorth Cynnar Caerdydd Ffôn: 03000 133 133 Gwefan: Porth Teulu Caerdydd

 

Diogelwch yn y Cartref

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru – Gwiriadau Diogelwch yn y Cartref.  Gweler manylion eu gwiriadau Diogelwch yn y cartref am ddim, sydd wedi eu haddasu yn sgil Covid-19

 

Cam-drin Domestig a Throsedd Casineb

Mae cysylltiad penodol rhwng cynnau tannau’n fwriadol a thrais domestig. Er gwaethaf Covid-19, nid oes newid i wasanaethau a roddir gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac maen nhw’n parhau i weithio’n agos gyda’r Heddlu a’r Awdurdod Lleol er mwyn sicrhau fod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

© BDLP - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd