Plant a Phobl Ifanc
Os ydych chi’n berson ifanc sy’n darllen y dudalen hon, efallai eich bod yn chwilio am help, p’un ai ar eich cyfer chi eich hun neu rywun yr ydych yn ei nabod. Mae’n bwysig eich bod yn gwybod nad ydych ar eich pen eich hun, a bod help a chymorth ar gael.
Rydyn ni yma i’ch helpu
Os oes rhywbeth yn eich poeni neu’n codi ofn arnoch ac nad ydych yn siŵr os ydych yn cael eich cam-drin, mae’n bwysig eich bod yn siarad â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo.
Eich diogelwch yw’r peth pwysicaf i ni a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i’ch helpu.
- Byw yng Nghaerdydd?
Am gyngor neu help ffoniwch 029 2053 6490 - Byw ym Mro Morgannwg?
Am gyngor neu help ffoniwch 01446 725 202
Mae’r bobl hyn yma i siarad â chi, nid oes ots beth yw’r broblem, byddant yn gwrando arnoch ac yn gallu helpu.
- Os oes angen help arnoch y tu allan i oriau gwaith ffoniwch 029 2078 8570
Mae nifer o bobl ifanc yn chwilio am help a chyngor o ran sut i fynd i’r afael â chamdriniaeth, problemau cyffuriau neu alcohol, hunan niweidio, teimlo’n drist neu fwlio, felly cofiwch nad chi yw’r unig un.
Os nad ydych eisiau siarad â’r Gwasanaethau Cymdeithasol am y problemau hyn gallwch siarad â Child Line.
Child Line 0800 11 11