Diffiniadau o gam-drin
Mae gan bob plentyn yr hawl i gael ei amddiffyn, ni waeth beth fo’i hil, ethnigrwydd, crefydd neu gefndir economaidd-gymdeithasol. Mewn achosion lle yr ymddengys fod gwrthdaro buddiannau rhwng amddiffyn y plentyn ac amddiffyn y gymuned/sefydliad crefyddol, rhaid rhoi blaenoriaeth i amddiffyn y plentyn.
Caiff plentyn ei gam-drin neu ei esgeuluso pan fo rhywun yn peri niwed iddo, neu’n methu â gweithredu i atal niwed.
Gall plant gael eu cam-drin gan eu teulu neu mewn lleoliad sefydliadol neu gymunedol gan y rheini sy’n eu nabod neu, mewn achosion prinnach, gan ddieithryn. Gall plentyn neu berson ifanc hyd at 18 oed ddioddef cam-drin neu esgeuluso a bydd angen ei amddiffyn drwy gynllun amddiffyn plant amlasiantaethol.
Cam-drin Corfforol
Gall cam-drin corfforol gynnwys taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi neu sgaldio, boddi, mygu neu unrhyw beth arall sy’n achosi niwed corfforol i blentyn. Hefyd gellir achosi niwed corfforol pan fydd rhiant neu ofalwr yn ffugio neu’n achosi salwch mewn plentyn y mae’n gofalu amdano.
Cam-drin Emosiynol
Mae cam-drin emosiynol parhaus yn achosi effeithiau difrifol a pharhaus ar ddatblygiad emosiynol plentyn. Gall gynnwys cyfleu i’r plentyn ei fod yn ddiwerth neu fod neb yn ei garu, ei fod yn annigonol, neu ond yn cael ei werthfawrogi os yw’n diwallu anghenion person arall. Gall gynnwys gosod disgwyliadau amhriodol o ran oedran a datblygiad ar blant. Gall gynnwys achosi i blant deimlo’n ofnus neu mewn perygl, er enghraifft drwy weld cam-drin domestig yn y cartref neu gael eu bwlio, neu gamfanteisio ar neu lygru plant. Mae rhyw fath o gam-drin emosiynol yn gysylltiedig â phob math o gam-drin yn erbyn plentyn, ond gall ddigwydd ar ei ben ei hun.
Cam-drin Rhywiol
Mae cam-drin rhywiol yn cynnwys gorfodi neu ddenu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol, p’un a yw’r plentyn yn ymwybodol o beth sy’n digwydd ai peidio. Gall y gweithgarwch gynnwys cyswllt corfforol, gan gynnwys gweithgarwch treiddiol neu anhreiddiol. Gall gynnwys gweithgareddau digyswllt, megis edrych ar ddeunydd pornograffig neu edrych ar ddeunydd pornograffig yn cael ei gynhyrchu gyda phlant, neu wylio gweithgareddau rhywiol, neu annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol.
Esgeuluso
Esgeuluso yw methiant parhaus i ddiwallu anghenion corfforol a/neu seicolegol sylfaenol plentyn, sy’n debygol o gael effaith ddifrifol ar iechyd neu ddatblygiad y plentyn. Gall gynnwys rhiant neu ofalwr sy’n methu â darparu bwyd, lloches a dillad digonol, methiant i amddiffyn plentyn rhag niwed neu berygl corfforol, neu fethiant i sicrhau mynediad i ofal neu driniaeth briodol. Gall hefyd gynnwys esgeuluso anghenion emosiynol sylfaenol plentyn, neu fethu ag ymateb iddynt. Yn ogystal â hyn gall esgeuluso ddigwydd yn ystod beichiogrwydd o ganlyniad i’r fam yn camddefnyddio sylweddau.