Ydych chi’n poeni am ffrind?
Mewn achosion brys pa fo plentyn yn wynebu perygl uniongyrchol, ffoniwch yr Heddlu ar 999.
Dylech weithredu os oes pryderon gennych ynghylch iechyd neu les plentyn. Hyd yn oed os yw eich pryderon yn ymddangos yn rhai bach i chi, dylech roi gwybod i’r awdurdodau perthnasol amdanynt. Caiff pob adroddiad eu trin fel mater difrifol, a gweithredir arnynt â sensitifrwydd. Cymerir camau i ddiogelu plant sy’n wynebu perygl uniongyrchol
Mae gan bob plentyn yr hawl i gael ei amddiffyn, ni waeth beth fo’i hil, ethnigrwydd, crefydd neu gefndir economaidd-gymdeithasol. Mewn achosion lle yr ymddengys fod gwrthdaro buddiannau rhwng amddiffyn y plentyn ac amddiffyn y gymuned/sefydliad crefyddol, rhaid rhoi blaenoriaeth i amddiffyn y plentyn.
Ceir gwybodaeth eang ar y we ac mae’r llinell gymorth ffôn yn cynnig cyngor i bobl ifanc ynghylch mynd i’r afael â bwlio a materion eraill.
Tudalennau gwybodaeth gyffredinol, gydag adrannau ar seibrfwlio, bwlio mewn chwaraeon, bwlio hiliol a homoffobaidd, a help i fwlis sydd eisiau newid.