Rydym yn eich annog i siarad â’ch plant gymaint â phosibl.
Mae gwybodaeth ar gael i helpu rhieni a gofalwyr.
Gall eich meddyg teulu helpu â phroblemau iechyd. Gall yr ymwelydd iechyd neu nyrs iechyd yr ysgol eich helpu gyda phroblemau o’r fath hefyd.
Os ydych yn poeni y gallai fod gan eich plentyn broblem alcohol neu gyffuriau, mae gwasanaeth camddefnyddio sylweddau ar gael i bobl ifanc yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Gall nyrsys y gwasanaeth camddefnyddio sylweddau gyflawni ymyriadau, cynorthwyo pobl ifanc a’u haddysgu, eu cyfeirio i wasanaethau gwahanol a chynnig cyngor i rieni a gofalwyr. Gellir cysylltu â hwy’n uniongyrchol ar 029 2090 7675 neu 029 2090 7678.
Nod Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein yw dileu cam-drin plant yn rhywiol. Maent yn cynnig cyngor ac yn helpu i ddiogelu plant a phobl ifanc, yn enwedig ar-lein. Gwefan y ganolfan yw www.ceop.police.uk ac mae cynnwys adrannau penodol i rieni a gofalwyr yn ogystal â phlant a phobl ifanc.
Mae The Safe Network yn wefan arall ar gyfer y DU. Er bod y rhwydwaith hwn yn gweithredu yn Lloegr, mae cryn dipyn o’r wybodaeth yn berthnasol i rieni a gofalwyr yng Nghymru.
Mae nifer o sefydliadau, rhwydweithiau a grwpiau cymorth sy’n gweithio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sy’n gallu cynnig help a chyngor. Rhestrir rhai o’r rhain isod.
Sefydliadau ar gyfer Caerdydd yn benodol:
- Mae StaySafe yn broject amlasiantaethol sydd â’r nod o sicrhau diogelwch pobl ifanc yng Nghaerdydd gyda’r nos. Mae’r tîm yn helpu i gadw pobl ifanc yn ddiogel, ac yn eu haddysgu o ran ymddygiad peryglus. Ceir Tudalen Facebook StaySafe
- Ar gyfer plant oedran ysgol, mae Caerdydd yn Erbyn Bwlio yn gweithio gyda phlant sy’n cael eu bwlio yn ogystal â’r sawl sy’n bwlio er mwyn torri’r cylch bwlio.
- Gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Caerdydd fod eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gwybodaeth am wasanaethau lleol i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
- Mae The Sprout yn wefan ryngweithiol sy’n annog creadigrwydd a chyfranogiad uniongyrchol tra’n rhoi gwybodaeth am y gweithgareddau a’r gwasanaethau sydd ar gael i bob person ifanc yng Nghaerdydd.
- Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu cyfleoedd a phrofiadau diddorol, heriol a chreadigol.
Sefydliadau ar gyfer Bro Morgannwg yn benodol:
- Gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Fro fod eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gwybodaeth am wasanaethau lleol i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
- Nod Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg yw rhoi’r cyfleoedd, y cymorth a’r wybodaeth sydd eu hangen ar bobl ifanc i gyflawni eu potensial. ewch i’w wefan
- Nod gwasanaeth Gwrth-fwlio’r Fro yw pennu dull gweithredu cydlynol a chyson o ymdrin â bwlio yn ysgolion a lleoliadau ieuenctid a chymunedol Bro Morgannwg.