Mae gan bob plentyn yr hawl i gael ei amddiffyn, ni waeth beth fo’i hil, ethnigrwydd, crefydd neu gefndir economaidd-gymdeithasol. Mewn achosion lle yr ymddengys fod gwrthdaro buddiannau rhwng amddiffyn y plentyn ac amddiffyn y gymuned/sefydliad crefyddol, rhaid rhoi blaenoriaeth i amddiffyn y plentyn.
Mae plentyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso pan fo rhywun yn ei niweidio, neu’n gwneud dim i atal niwed.
Gall plant fod mewn perygl o niwed gyda theulu neu mewn lleoliad sefydliadol neu gymunedol, gan rywun maen nhw’n ei nabod, neu’n fwy prin, gan ddieithryn. Gall plentyn neu berson ifanc 18 oed gael ei gam-drin neu ei esgeuluso a bod angen cymorth trwy gynllun amddiffyn plant rhyngasiantaeth.