DYDD LLUN 13 TACHWEDD 2017 YN STADIWM PRINCIPALITY, CAERDYDD
Bydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn cynnal am ddim
tâl cynhadledd i lansio Wythnos Diogelu 13 – 17 Tachwedd.
Mae chwaraeon o fudd i iechyd a lles unigolion a chymunedau, ond mae’r diwydiant hefyd yn wynebu heriau diogelu. Diben y gynhadledd yw nodi sut y gallwn sicrhau bod y diwydiant chwaraeon yn ymwybodol o ddiogelwch plant ac oedolion.
BETH YW NODAU’R GYNHADLEDD?
- Dysgu o brofiadau a chydnerthedd ein siaradwyr y mae eu bywydau wedi’u niweidio gan effeithiau cam-drin ond sydd wedi trechu hyn drwy ddangos cryfder ac urddas
- Hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol wrth sicrhau bod cyfranogwyr yn ddiogel
- Pwysleisio rôl hanfodol atal niwed a cham-drin y gall oedolion ei gadw’n gyfrinach drwy gydol eu hoes.
PWY SY’N CYMRYD RHAN?
Mae’r siaradwyr yn y gynhadledd yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr ysbrydoledig. Bydd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn agor y digwyddiad. Bydd aelodau o’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn rhannu’r gwaith o gadeirio, cyfweld a chrynhoi.
I BWY MAE’R DIGWYDDIAD?
Byrddau Diogelu Rhanbarthol, cyrff llywodraethu chwaraeon, rhieni, athrawon, llywodraethwyr ysgol, yr heddlu a hyfforddwyr chwaraeon.
Bydd manylion sut i gofrestru ar gael maes o law ar wefan y Bwrdd Cenedlaethol:
www.bwrdddiogelu.cymru
Comments are closed.