Dydd Llun 15 – Dydd Gwener 19 Tachwedd 2021
Mae’r Wythnos Diogelu Genedlaethol yn ddigwyddiad blynyddol a gydlynir gan bob un o’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol ledled Cymru ac fe’i cefnogir gan Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (BDAC). Ffocws yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth ymhlith ymarferwyr a’r gymuned o negeseuon diogelu allweddol.
Eleni byddwn yn canolbwyntio ar y thema ranbarthol ‘Iechyd Meddwl a’r Boblogaeth’ a byddwn hefyd yn ailedrych ar faterion eraill sydd wedi’u gwaethygu gan y pandemig. Byddwn hefyd yn gwneud cymhariaeth a myfyrio o ran pa welliannau/newidiadau sydd wedi’u gwneud, flwyddyn yn ddiweddarach.
Mae Rhaglen Ddigwyddiadau’r Wythnos Genedlaethol Diogelu i’w gweld yma: C&VRSB NSW Programme of Events – FINAL_cy-GB
Yr hashnod cenedlaethol eleni yw #DiogeluCymru
Bydd ddolen i’n hadnodd diogelu newydd i blant a phobl ifanc ar gael yn fuan. Yma gallwch gymryd golwg ar amrywiaeth o adnoddau ar-lein sydd wedi’u teilwra i helpu plant, pobl ifanc a’u teuluoedd i gadw’n ddiogel. Ymhlith y pynciau mae:
- Iechyd meddwl a lles
- Diogelwch ar-lein
- Allgáu cymdeithasol/unigrwydd
- Camddefnyddio alcohol a sylweddau
- Gangiau/cam-fanteisio
- Cam-drin domestig/perthnasoedd iach
- Atal hunanladdiad
Adnoddau y gellir eu lawrlwytho:
Adnoddau Wythnos Genedlaethol Diogelu 2021 – Iechyd a Lles Meddwl
Adnoddau Wythnos Genedlaethol Diogelu 2021 – Ymwybyddiaeth o Gamddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol
Adnoddau Wythnos Genedlaethol Diogelu 2021 – Cam-drin ar-lein
Rydym hefyd wedi creu Ffeithlen codi ymwybyddiaeth i denantiaid, gyda ffocws penodol ar yr effaith gafodd y pandemig ac ystyried materion a waethygwyd megis camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl neu les, cam-drin domestig ac ati.
Mae 25 Tachwedd yn ddiwrnod ‘Dileu trais yn erbyn menywod a merched’ y Cenhedloedd Unedig. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel y ‘Diwrnod Rhuban Gwyn’. Rydym wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar-lein rhwng 22 Tachwedd – 8 Rhagfyr 2021 i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a’r gwasanaethau ac ymyriadau sydd ar gael ledled y rhanbarth i ddioddefwyr, goroeswyr ac i’r rhai sy’n cyflawni niwed.
Mae’r ddolen i’r Calendr Digwyddiadau yma:
Comments are closed.