Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl o 18-24 Mai 2020 ac mae’n gyfle i’r DU ganolbwyntio ar iechyd meddwl. Y thema eleni yw pwysigrwydd ‘caredigrwydd’ a gofalu am ein gilydd.
Mae’r ffocws ar garedigrwydd yn ymateb i’r argyfwng Coronafeirws, sy’n cael effaith fawr ar iechyd meddwl pobl, ac mae llawer o bobl yn ffeindio pethau’n galed yn emosiynol.
Mae gan rai pobl gyflyrau iechyd meddwl fel iselder neu orbryder, sy’n golygu bod ganddynt deimladau sy’n gwrthod mynd i ffwrdd ac sy’n dechrau cael effaith fawr ar fywyd o ddydd i ddydd.
Nid yw gofalu am ein hunain – ac eraill – erioed wedi bod yn bwysicach.
Dywedodd Mark Rowland, prif weithredwr y Sefydliad Iechyd Meddwl: “Rydym am ddefnyddio Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i ddathlu’r miloedd o weithredoedd o garedigrwydd sydd mor bwysig i’n hiechyd meddwl. Ac rydym am ddechrau trafodaeth ar y math o gymdeithas rydym am ei chreu wrth i ni ddod allan o’r pandemig hwn.”
I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ewch i: https://www.mentalhealth.org.uk/campaigns/mental-health-awareness-week
Mae rhagor o gymorth a chyngor ar gael yma ar sut i gael help gyda’ch iechyd meddwl a’ch lles.
Comments are closed.