Wythnos Diogelu Cenedlaethol 2019
Dydd Llun 11 – Dydd Gwener 15 Tachwedd
Mae Wythnos Diogelu Cenedlaethol yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir ym mis Tachwedd. Nod yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth am faterion diogelu a c i ategu’r neges mai ‘cyfrifoldeb pawb yw diogelu’.
Bydd y ffocws Cenedlaethol eleni yn canolbwyntio ar lansiad Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Fodd bynnag, bydd Byrddau Diogelu Caerdydd a’r Fro hefyd yn tynnu sylw at ddwy thema leol yn ymwneud â:
- Cam-drin Domestig (a’i ffurfiau amrywiol).
- Camfanteisio (gan gynnwys troseddau cyllyll, diwylliant gangiau ayb).
Profforma Digwyddiadau Wythnos Diogelu
Mae’r Wythnos Diogelu Cenedlaethol yn gyfle i godi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol ac hefyd y gymuned drwy gynnal cyfleoedd hyfforddi, digwyddiadau codi ymwybyddiaeth neu hyd yn oed stondinau gwybodaeth.
Os carech gynnal digwyddiad yn ystod WDC, cwblhewch Profforma a’i ddychwelyd i’r Uned Fusnes yn y cyfeiriad e-bost isod. Bydd eich digwyddiad wedyn i’w weld yn rhaglen ddigwyddiadau’r Bwrdd Diogelu ar gyfer eleni.
Os carech dderbyn mwy o wybodaeth dylech gysylltu â’r Uned Fusnes yn caerdyddabromorgannwgbdr@caerdydd.gov.uk
Seremoni Wobrwyo Cydnabyddiaeth/Diogelu
Caiff y Seremoni Wobrwyo Cydnabyddiaeth/Diogelu ei chynnal Ddydd Gwener 15 Tachwedd, fel diweddglo teilwng i Wythnos Genedlaethol Diogelu. Dychwelwch eich Seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth 2019 wedi eu cwblhau i’r Uned Fusnes yn caerdyddabromorgannwgbdr@caerdydd.gov.uk erbyn 18 Hydref.
Comments are closed.