Mae BDPRh Caerdydd a Bro Morgannwg yn dod â chynrychiolwyr ynghyd o bob un o’r pedair prif
asiantaeth a gweithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am ddiogelu plant yn ein rhanbarth.
Mae’r Cynllun Blynyddol (384kb PDF) yn nodi’r blaenoriaethau strategol, y camau allweddol, y cerrig milltir a’r mesurau perfformiad, ynghyd â’r partneriaid cyfrifol a‘r strwythur ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2018 tan Fawrth 2019. Mae’n cymryd i ystyriaeth y gofynion presennol a osodir ar Fyrddau Diogelu Plant gan Lywodraeth Cymru a’r canllaw statudol yn ymwneud â Rhan 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Dan y canllaw hwnnw, gofynnir i Fyrddau Diogelu Plant lunio cynlluniau blynyddol, a’u cyhoeddi cyn dechrau bob blwyddyn ariannol, yn ogystal â llunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol bob mis Gorffennaf yn dangos tystiolaeth o gynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Blynyddol y flwyddyn flaenorol. Mae’r Ddeddf, a ategir gan y rheoliadau, yn darparu ar gyfer pryd a sut y caiff y cynlluniau ac droddiadau eu cyhoeddi ac yn rhagnodi cynnwys y cynlluniau blynyddol a’r adroddiadau blynyddol.
Comments are closed.