Adolygiadau Ymarfer Oedolion
Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, rhaid i’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol drefnu i Adolygiad Ymarfer Oedolion gael ei gynnal pan fo hi’n hysbys neu’n cael ei amau bod oedolyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso a’i fod wedi:
- marw
- cael anafiad a all fygwth bywyd o bosibl; neu
- datblygu nam iechyd difrifol a pharhaol
Diben yr adolygiad fydd nodi a oes unrhyw beth i’w ddysgu o ran ymarfer yn y dyfodol ac i hyrwyddo gwelliannau yn y dyfodol o ran ymarfer diogelu oedolion rhwng asiantaethau. Cynhelir Digwyddiad Dysgu i weithwyr proffesiynol a oedd yn gweithio gyda’r oedolyn a/neu deulu. Mae taflen wybodaeth (287kb PDF) wedi’i llunio i weithwyr proffesiynol a fydd yn egluro diben y Digwyddiad Dysgu a’r hyn y gellir ei ddysgu gan y sawl sy’n bresennol.
Gofynnir i weithwyr proffesiynol sydd am atgyfeirio achos at ystyriaeth Adolygiad Ymarfer Oedolion gwblhau’r Ffurflen Atgyfeirio Ymarfer APR/CPR (24kb DOC) a’i dychwelyd i Uned Fusnes y Bwrdd Diogelu caerdyddabromorgannwgbdr@caerdydd.gov.uk
Adroddiadau Adolygiadau Ymarfer Oedolion Cyhoeddedig
Bydd manylion adroddiadau Adolygiad Ymarfer Oedolion a gyhoeddwyd gan Fwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg ar gael i’w lawrlwytho yma.
- CVSB APR022020 – Final Report_cy-GB
- 7 Minute Briefing Final- APR022020_cy-GB
- CVSB APR 032020 – Final Report_cy-GB
- 7 Minute Briefing APR032020 Final_cy-GB
- APR 2/2017
- APR 4/2017
Adolygiad Thematig i Farwolaethau Oedolion: Comisiynwyd project ymchwil gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol i edrych ar farwolaethau oedolion yng Nghymru drwy ddadansoddi adolygiadau, gan gynnwys Adolygiadau o Ddynladdiad Domestig, Adolygiadau Ymarfer Oedolion ac Adolygiadau o Ddynladdiad Iechyd Meddwl. Mae’r adroddiad ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol: Adrodd ar Farwolaethau Oedolion