Y Cyhoedd
Crëwyd y rhan hon o’r wefan i’r cyhoedd ac i’w gwneud yn hawdd i chi gael gwybodaeth am ddiogelu oedolion ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae gan y wefan bob math o wybodaeth, cyngor a chanllawiau i’r cyhoedd a phobl a allai fod yn profi neu mewn perygl o brofi cam-drin, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae hefyd wybodaeth a chyngor ar ba gymorth sydd ar gael a sut i roi gwybod am bryderon fel y gallwn gydweithio i helpu i gadw oedolion yn rhydd rhag cam-drin ac esgeuluso.