Dyletswydd i Roi Gwybod am Oedolion sy’n Agored i Risg
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 – Gweithio gyda’n gilydd i Ddiogelu Pobl, yn gosod dyletswydd statudol ar bartneriaid perthnasol i roi gwybod i’r awdurdod lleol os yw’n tybio bod person yn oedolyn sy’n agoried risg. Mae’r Ddeddf hon hefyd yn rhoi dyletswydd ar awdurdod lleol i roi gwybod i awdurdod lleol arall os yw oedolyn y tybir ei fod yn oedolyn sy’n agored i risg yn byw neu’n symud i ardal arall.
Mae’n rhaid bod gan y person y gosodir y ddyletswydd arno ‘achos i gredu’ bod oedolyn yn agored i risg a dylid nodi’r ffactorau canlynol:
- nid oes angen cadarnhau, yn ôl pwysau tebygolrwydd, bod ffaith benodol wedi’i chadarnhau;
- nid barn oddrychol y sawl sy’n gwneud y penderfyniad mohoni;
- mae achos i gredu yn bodoli os oes gwybodaeth ar gael a fyddai’n bodloni arsylwr gwrthrychol bod yr amgylchiadau penodol yn bodoli
Dylai ymarferydd sydd ag ‘achos i gredu’ bod oedolyn yn oedolyn sy’n wynebu risg, baratoi cyfeireb ysgrifenedig gan nodi’r wybodaeth ganlynol:
- crynodeb o’r wybodaeth y mae’r penderfyniad yn seiliedig arni;
- pam fod y sawl sy’n gwneud y penderfyniad yn ystyried yn wrthrychol bod angen gweithredu;
- datganiad byr yn nodi’r risgiau posibl i’r oedolyn os na fydd unrhyw beth yn cael ei wneud.
Yna dylid rhoi gwybod am y pryderon i’r Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gwasanaeth Iechyd neu’r Heddlu a fydd yn cynnal ymchwiliadau pellach.