Adolygiadau Ymarfer Oedolion
Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, rhaid i’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol drefnu i Adolygiad Ymarfer Oedolion gael ei gynnal pan fo hi’n hysbys neu’n cael ei amau bod oedolyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso a’i fod wedi:
- marw; neu
- cael anafiad a all fygwth bywyd o bosibl; neu
- ddatblygu nam iechyd neu ddatblygiad difrifol a pharhaol
Diben yr adolygiad fydd nodi a oes unrhyw beth i’w ddysgu o ran ymarfer yn y dyfodol ac i hyrwyddo gwelliannau yn y dyfodol o ran ymarfer diogelu oedolion rhwng asiantaethau.
Mae taflen (342kb PDF) wybodaeth wedi cael ei llunio i rieni, teuluoedd a gofalwyr i helpu i egluro pam fod Adolygiad Ymarfer Oedolion yn cael ei gynnal.
Caiff Adroddiadau Adolygu Ymarfer Oedolion a gyhoeddir yn y dyfodol eu rhestru yma.