Beth yw’r Bwrdd Diogelu Oedolion?
Mae Bwrdd Oedolion Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg yn bartneriaeth amlasiantaeth sy’n cynnwys sefydliadau statudol, annibynnol ac elusennol sy’n cydweithio i ddiogelu oedolion rhag cam-drin.
Rôl y Bwrdd yw sicrhau cydlyniad effeithiol gwasanaethau i ddiogelu a hyrwyddo lles oedolion lleol a allai fod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso yn ardal Caerdydd a’r Fro.
Nod y Bwrdd yw gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gam-drin ac esgeuluso ymhlith defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol, darparwyr gofal a’r gymuned ehangach ac mae’n gweithio i greu diddordeb ymhlith y gymuned a’i chynnwys i sicrhau bod Diogelu’n “Gyfrifoldeb i Bawb”.
Prif amcanion y Bwrdd, fel y’u hamlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yw:
- Diogelu oedolion yn yr ardal sydd ag anghenion gofal a chymorth (p’un ai a yw’r awdurdod lleol yn eu bodloni ai peidio) ac sydd unai’n profi neu mewn perygl o brofi cam-drin neu esgeuluso
- Atal yr oedolion hynny yn yr ardal a nodir uchod, rhag dod yn destun cam-drin neu esgeulustod