Cuddio Tudalen Hon
Darllenwch ein cyngor diogelu ar gyfer yr argyfwng Covid-19: Plant | Oedolion

Newyddion

Adult Safeguarding logo

Wythnos Diogelu Cenedlaethol 2023

13 – 17 Tachwedd

Thema NSW eleni yw 'Hanfodion Arfer Diogelu - Yn ôl i'r Hanfodion'.
Mae’r Rhaglen Ddigwyddiadau ar gyfer eleni i’w gweld yma:CV RSB NSW Programme of Events - FINAL cy (updated)

Wythnos Diogelu Cenedlaethol 2022

14 – 18 Tachwedd

Thema NSW eleni yw 'Hanfodion Arfer Diogelu - Yn ôl i'r Hanfodion'.
Mae’r Rhaglen Ddigwyddiadau ar gyfer eleni i’w gweld yma:CY NSW 2022 Final

 

 

 

 

Wythnos Diogelu Genedlaethol 2021

Dydd Llun 15 – Dydd Gwener 19 Tachwedd 2021

Mae’r Wythnos Diogelu Genedlaethol yn ddigwyddiad blynyddol a gydlynir gan bob un o’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol ledled Cymru ac fe’i cefnogir gan Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (BDAC).  Ffocws yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth ymhlith ymarferwyr a’r gymuned o negeseuon diogelu allweddol.

Eleni byddwn yn canolbwyntio ar y thema ranbarthol ‘Iechyd Meddwl a’r Boblogaeth’ a byddwn hefyd yn ailedrych ar faterion eraill sydd wedi’u gwaethygu gan y pandemig.  Byddwn hefyd yn gwneud cymhariaeth a myfyrio o ran pa welliannau/newidiadau sydd wedi’u gwneud, flwyddyn yn ddiweddarach.

Mae Rhaglen Ddigwyddiadau’r Wythnos Genedlaethol Diogelu i’w gweld yma: C&VRSB NSW Programme of Events – FINAL_cy-GB

Yr hashnod cenedlaethol eleni yw #DiogeluCymru

Bydd ddolen i’n hadnodd diogelu newydd i blant a phobl ifanc ar gael yn fuan. Yma gallwch gymryd golwg ar amrywiaeth o adnoddau ar-lein sydd wedi’u teilwra i helpu plant, pobl ifanc a’u teuluoedd i gadw’n ddiogel. Ymhlith y pynciau mae:

  • Iechyd meddwl a lles
  • Diogelwch ar-lein
  • Allgáu cymdeithasol/unigrwydd
  • Camddefnyddio alcohol a sylweddau
  • Gangiau/cam-fanteisio
  • Cam-drin domestig/perthnasoedd iach
  • Atal hunanladdiad

Adnoddau y gellir eu lawrlwytho:

Adnoddau Wythnos Genedlaethol Diogelu 2021 – Iechyd a Lles Meddwl

Adnoddau Wythnos Genedlaethol Diogelu 2021 – Diogelu Oedolion, Cam-drin Domestig, Camfanteisio Troseddol

Adnoddau Wythnos Genedlaethol Diogelu 2021 – Ymwybyddiaeth o Gamddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol

Adnoddau Wythnos Genedlaethol Diogelu 2021 – Cam-drin ar-lein

Rydym hefyd wedi creu Ffeithlen codi ymwybyddiaeth i denantiaid, gyda ffocws penodol ar yr effaith gafodd y pandemig ac ystyried materion a waethygwyd megis camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl neu les, cam-drin domestig ac ati.

Mae 25 Tachwedd yn ddiwrnod ‘Dileu trais yn erbyn menywod a merched’ y Cenhedloedd Unedig.  Mae hefyd yn cael ei adnabod fel y ‘Diwrnod Rhuban Gwyn’. Rydym wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar-lein rhwng 22 Tachwedd – 8 Rhagfyr 2021 i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a’r gwasanaethau ac ymyriadau sydd ar gael ledled y rhanbarth i ddioddefwyr, goroeswyr ac i’r rhai sy’n cyflawni niwed.

Mae’r ddolen i’r Calendr Digwyddiadau yma:

Cymraeg White Ribbon Calendar 2021 FINAL

Gall ychydig o gamau syml helpu pobl hŷn i ddiogelu eu hunain rhag troseddu ar-lein a sgamiau

Gyda mwy o bobl hŷn yn defnyddio cyfrifiaduron, cyfrifiaduron llechen a ffonau clyfar o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae’n hanfodol bod pobl hŷn yn cymryd ychydig o gamau syml fel y gallant aros yn ddiogel ar-lein.

Dyna’r neges gan grŵp gweithredu o sefydliadau sy’n cydweithio i ddiogelu ac amddiffyn pobl hŷn yng Nghymru1.

Mae llawer o bobl hŷn ledled Cymru wedi bod yn mynd ar-lein yn ddiweddar – rhai am y tro cyntaf – i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid a chael hyd i wybodaeth a gwasanaethau hanfodol yn ystod y cyfnod cloi.

A chydag ychydig o gamau syml – camau y dylem ni i gyd fod yn eu cymryd – gan gynnwys defnyddio cyfrineiriau a meddalwedd diogelwch cryf, a sicrhau bod apiau a systemau gweithredu’n cael eu diweddaru’n gyson, gall pobl hŷn fwynhau’r holl fanteision o fod ar-lein wrth ddiogelu eu hunain rhag risgiau diogelwch posibl.

Mae hefyd yn hanfodol bod pobl hŷn yn gwybod sut i adnabod sgamiau e-byst ac ar-lein eraill er mwyn diogelu eu hunain rhag troseddwyr sy’n ceisio dwyn eu harian a’u gwybodaeth bersonol.

 

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE: “I lawer o bobl hŷn, mae bod ar-lein yn ystod pandemig COVID-19 wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, gan eu galluogi i aros mewn cysylltiad ag aelodau’r teulu a ffrindiau, dod o hyd i wybodaeth hanfodol a defnyddio gwasanaethau ar-lein.

“Ond mae’n hanfodol bod pobl hŷn – fel pob un ohonom – yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i ddiogelu ein hunain ar-lein, yn enwedig gan ein bod yn gwybod y gall effaith troseddau a sgamiau ar-lein fod yn ddifrifol, gan arwain yn aml at golli hyder ac amharodrwydd i ddefnyddio technoleg ddigidol eto.

Felly, byddwn yn annog unrhyw berson hŷn, neu aelod o’r teulu neu ffrind a all fod yn ei gynorthwyo i fynd ar-lein, i ymweld â Get Safe Online er mwyn sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth mae ei hangen arnynt i gadw’n ddiogel ar-lein.”

 

Mae gwefan Get Safe Online – www.getsafeonline.org – yn darparu amrywiaeth eang o ganllawiau a gwybodaeth hawdd eu deall sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein, yn ogystal ag awgrymiadau a diweddariadau defnyddiol am y sgamiau diweddaraf y dylid cadw llygad amdanynt.

#CewchHelpiGadwnDdiogel

 

 

 

Amddiffyn a Diogelu Amddiffyn a Diogelu Pobl Hŷn

Mae’r pandemig COVID-19 wedi achosi pryder a tharfu’n sylweddol ar bob un ohonom. Ond i bobl hŷn sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu’n wynebu camdriniaeth, a’r rhai sydd wedi dioddef trosedd neu wedi’u targedu gan droseddwyr, mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd tu hwnt. Mae nifer o bobl hŷn ar draws Cymru wedi teimlo ofn, yn ynysig ac yn unig. Dyna pam rydym wedi dod at ein gilydd gyda neges syml ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru: Nid ydych ar eich pen eich hun. Rydym yma i chi a gallwn eich helpu a’ch cefnogi. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod gan bobl hŷn a allai fod mewn perygl, a’r rhai sy’n gofalu ac yn poeni amdanynt, y wybodaeth angenrheidiol ynglŷn â’r help a’r gefnogaeth sydd ar gael. Rydym hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd yn ehangach am y rôl y gall pob un ohonom ei chwarae wrth helpu i amddiffyn pobl hŷn. Mae’r pecyn hwn yn cynnig amrywiaeth o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol am gadw pobl hŷn yn ddiogel – gan gynnwys y ffyrdd y gallwn adnabod pobl hŷn a allai fod mewn perygl, a manylion cyswllt sefydliadau allweddol sy’n gallu cynnig cymorth a chefnogaeth hanfodol.

Pecyn Gwybodaeth Covid-19

#CaelHelpCadw’nDdiogel    #NidYdychArEichPenEichHun

 

 

 

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

18 – 24 Mai 2020

Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl o 18-24 Mai 2020 ac mae’n gyfle i’r DU ganolbwyntio ar iechyd meddwl.   Y thema eleni yw pwysigrwydd ‘caredigrwydd’ a gofalu am ein gilydd.

Mae’r ffocws ar garedigrwydd yn ymateb i’r argyfwng Coronafeirws, sy’n cael effaith fawr ar iechyd meddwl pobl, ac mae llawer o bobl yn ffeindio pethau’n galed yn emosiynol.

Mae gan rai pobl gyflyrau iechyd meddwl fel iselder neu orbryder, sy’n golygu bod ganddynt deimladau sy’n gwrthod mynd i ffwrdd ac sy’n dechrau cael effaith fawr ar fywyd o ddydd i ddydd.

Nid yw gofalu am ein hunain – ac eraill – erioed wedi bod yn bwysicach.

Dywedodd Mark Rowland, prif weithredwr y Sefydliad Iechyd Meddwl: “Rydym am ddefnyddio Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i ddathlu’r miloedd o weithredoedd o garedigrwydd sydd mor bwysig i’n hiechyd meddwl. Ac rydym am ddechrau trafodaeth ar y math o gymdeithas rydym am ei chreu wrth i ni ddod allan o’r pandemig hwn.”

I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ewch i: https://www.mentalhealth.org.uk/campaigns/mental-health-awareness-week

 

Mae rhagor o gymorth a chyngor ar gael yma ar sut i gael help gyda’ch iechyd meddwl a’ch lles.

 

Llywodraeth Cymru: Ymgyrch ‘Ni ddylai cartref fod yn lle llawn ofn’ gyda neges i ddioddefwyr cam-drin domestig: Mae cymorth ar gael, nid ydych ar eich pen eich hun

 

Heddiw lansiodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, ymgyrch newydd i sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yn gwybod nad ydynt ar eu pennau eu hunain ac y gallant gael gafael ar gymorth trwy gydol y pandemig coronafeirws (Covid-19) a’r tu hwnt.

Cliciwch yma i weld y datganiad llawn i’r wasg gan y Gweinidog.

Mae’r ymgyrch yn annog pobl i adnabod arwyddion cam-drin domestig, ac i geisio cymorth i’r rhai nad ydynt yn gallu cael help eu hunain.

Efallai y byddai’n anoddach cael cymorth ar hyn o bryd. Mae’r ymgyrch yn rhoi gwybod i ddioddefwyr trais a cham-drin domestig nad ydynt ar eu pennau eu hunain; mae cymorth a chefnogaeth ar gael o hyd.

Yn ystod y cyfyngiadau symud oherwydd y coronafeirws, mae nifer y dynladdiadau cam-drin domestig wedi cynyddu. Mae allgáu cymdeithasol wedi’i gwneud yn haws i gamdrinwyr reoli eu dioddefwyr, ac yn fwy anodd i ddioddefwyr geisio cymorth pan fo eu camdrinwyr yn craffu arnynt.

Mae Pecyn cymorth i arsylwyr hefyd wedi cael ei ddatblygu gan Cymorth i Fenywod yng Nghymru sy’n rhoi cyngor a gwybodaeth benodol wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol aelodau o’r gymuned – o wirfoddolwyr i gyflogwyr ac unigolion – er mwyn cyfeirio a chefnogi goroeswyr yn effeithiol i gael cymorth.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cwrs e-ddysgu ar-lein i’ch helpu i adnabod arwyddion cam-drin domestig, a deall sut y gallwch chi helpu.

Os ydych yn dioddef trais neu gam-drin gartref neu os ydych yn pryderu am rywun, mae help ar gael. Mae’r llinell gymorth Byw Heb Ofn 0808 80 10 800 sy’n gyfrinachol ac am ddim ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch gael cymorth trwy neges destun, e-bost, sgwrs fyw neu ffonio.

Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl brys, ffoniwch yr Heddlu ar 999.

(Ar gyfer cymorth heb siarad, deialwch 999 ac yna pwyswch 55 pan fyddwch yn clywed y gweithredydd.) Nid oes angen i chi siarad, bydd yr heddlu yn ymateb.

#BywHebOfn

 

CORONAFEIRWS (COVID-19)

Helpwch ni i ddiogelu ein cymunedau rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Mae diogelu oedolion a phlant mewn perygl yn parhau i fod yn flaenoriaeth ledled Caerdydd a Bro Morgannwg ac mae partneriaid diogelu wedi bod yn gweithio i roi modelau gweithredu diwygiedig ar waith sy’n ein galluogi i gydymffurfio â Chyngor y Llywodraeth a dal i ddarparu gwasanaeth diogelu ac ymateb i’r rhanbarth.

Mae Bwrdd Diogelu Caerdydd a’r Fro yn gofyn i bawb yn y rhanbarth ofalu am ei gilydd er mwyn helpu’r rheini a allai fod mewn perygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Mae hon yn neges sy’n berthnasol bob amser, ond nawr yn fwy nag erioed, mae angen amddiffyn pobl o bob oed.

“Rydym yn byw mewn cyfnod nas gwelwyd ei debyg o’r blaen o ganlyniad i’r Coronafeirws, gydag ymbellhau cymdeithasol a hunanynysu yn un o’r negeseuon a’r cyngor allweddol sy’n cael eu darparu gan y Llywodraeth.

“Er y bydd hyn yn sicr yn helpu i atal lledaeniad y firws, yn anffodus, bydd hyn hefyd yn golygu y gallai plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl yn ardaloedd Caerdydd a Bro Morgannwg fod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso.

Rydym yn gofyn i bawb, yn ystod y cyfnod ansicr hwn, i fod yn wyliadwrus ac edrych allan am ffrindiau, teuluoedd a chymdogion ac os ydych yn gweld unrhyw arwyddion o gwbl sy’n gwneud i chi feddwl y gallent fod yn dioddef unrhyw fath o niwed, rhowch wybod i’ch timau diogelu lleol.

 

os oes gennych bryderon ynghylch plentyn cysylltwch â’r canlynol:

Tîm Cymorth i Deuluoedd a Derbyn

01446 725 202

 

Y tu allan i oriau swyddfa

Tîm Dyletswydd Brys:

029 2078 8570

Hyb Diogelu Amlasiantaethol (MASH):

029 2053 6490

Y tu allan i oriau swyddfa

Tîm Dyletswydd Brys:

029 2078 8570

 

Os oes gennych bryderon am oedolyn mewn perygl:

Gwasanaethau Oedolion Bro Morgannwg:

01446 700111

Y tu allan i oriau swyddfa

02920 788570

 

Diogelu Oedolion Caerdydd:

02922 330888

Y tu allan i oriau swyddfa

02920 788570

© BDLP - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd