Polisïau, Gweithdrefnau a Phrotocolau
Mae’r Bwrdd Diogelu’n gyfrifol am sicrhau bod unrhyw bolisïau a gweithdrefnau cenedlaethol sydd am gadw oedolion yn ddiogel yn berthnasol ac yn addas at y diben.
Mae polisïau a gweithdrefnau’n creu fframwaith y mae’r sefydliad a’i staff / gwirfoddolwyr yn gweithio oddi mewn iddo. Nhw sy’n diffinio beth mae sefydliadau yn ei wneud a sut. Mae polisïau a gweithdrefnau clir yn cynorthwyo â gwneud penderfyniadau’n effeithiol, yn rhoi canllawiau ar yr hyn y gall ac na all staff / gwirfoddolwyr ei wneud, pa benderfyniadau y gallant eu gwneud a pha weithgareddau sy’n briodol.
Yn yr adran hon mae canllawiau cenedlaethol a pholisïau a gweithdrefnau lleol a fydd yn helpu i gynnal ymarfer diogelu effeithiol.
Mae polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau a gymeradwyir gan y Bwrdd Diogelu Oedolion ar gael i’w lawrlwytho o’r adran hon.