Cuddio Tudalen Hon
Darllenwch ein cyngor diogelu ar gyfer yr argyfwng Covid-19: Plant | Oedolion

Llinellau Sirol

‘Llinellau Sirol’ yw’r term a ddefnyddir ar gyfer gangiau trefol a dinesig sy’n cyflenwi cyffuriau i ardaloedd maestrefol, gan ddefnyddio llinellau ffonau symudol.  Mae’r gangiau, sydd ar y cyfan, o ardaloedd dinesig megis Llundain, Birmingham a Lerpwl, yn cam-fanteisio mewn ffordd droseddol, yn targedu plant ac oedolion agored i newid i symud cyffuriau ac arian.  Mae’r gamdriniaeth a’r cam-fanteisio hyn yn cynnwys gorfodi, hudo, codi ofn a dychryn, bygwth trais a chaethwasiaeth ddyled.

Mae ‘Llinellau Sirol’ yn dod yn broblem gynyddol drwy’r Deyrnas Unedig. Mae’n fygythiad sylweddol i gymunedau ac yn cam-fanteisio ar y bobl sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.  Bydd y gangiau yn aml yn defnyddio eiddo lleol, fel arfer yn eiddo i berson sy’n agored i niwed, fel canolfan i’w gweithgareddau.  Gwneir hyn yn aml drwy orfodaeth, a chyfeirir ato’n aml fel “cwcŵio”.

 

Yr arwyddion i chwilio amdanynt

Mae nifer o arwyddion sy’n gallu awgrymu bod person ynghlwm wrth weithgarwch ‘Llinellau Sirol’, gan gynnwys:

  • Mynd ar goll a dod i’r fei y tu allan i’w hardal gartref.
  • Yn meddu, heb eglurhad, ar ragor o arian neu ddillad a ffonau symudol newydd.
  • Derbyn llawer iawn o negeseuon testun neu alwadau ffôn.
  • Gadael gartref neu ofal heb esboniad.
  • Arwyddion posibl o ymosodiad neu anafiadau corfforol heb esboniad.
  • Meddu ar arfau megis cyllyll.
  • Ynysu o ffrindiau neu rwydweithiau cymdeithasol.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi cynhyrchu deunyddiau a chanllawiau ar gyfer staff rheng flaen sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion a allai fod yn agored i niwed neu y gallai risg fod yn eu hwynebu, ar sut i adnabod yr arwyddion ac ymateb yn briodol, er mwyn i ddioddefwyr posibl dderbyn y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.

Mae’r deunyddiau a’r canllawiau ar gael i’w lawrlwytho o wefan y Swyddfa Gartref:

https://www.gov.uk/government/publications/criminal-exploitation-of-children-and-vulnerable-adults-county-lines

https://www.gov.uk/government/collections/county-lines-criminal-exploitation-of-children-and-vulnerable-adults

Beth i’w wneud os oes gennych chi bryderon

Dylai unrhyw ymarferydd sy’n gweithio gydag unigolyn diamddiffyn y maen nhw’n credu y gallent fod yn agored i gamfanteisio drwy linellau sirol ddilyn eu canllawiau diogelu lleol a rhannu’r wybodaeth hon gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol yr awdurdod lleol.

Os ydych chi’n credu bod rhywun mewn perygl o niwed ar hyn o bryd, dylech gysylltu â’r heddlu.

© BDLP - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd