Beth yw Cam-drin?
Cam-drin yw pan fydd rhywun yn gwneud neu’n dweud pethau wrth rywun arall i’w brifo, peri gofid iddynt neu godi ofn arnynt. Gall fod yn rhywbeth untro neu’n ailadroddus.
Mae cam-drin oedolion yn anghywir a gall ddigwydd i unrhyw un 18+ oed.
Gall unrhyw un gam-drin, ond fel arfer rhywun sy’n cael ei ymddiried ynddo sy’n ei wneud fel arfer fel perthynas, ffrind, gweithiwr â thâl neu wirfoddolwr.
Pwy sy’n oedolyn mewn perygl?
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi bod oedolyn mewn perygl yn oedolyn:
- sy’n wynebu neu mewn perygl o wynebu cael ei gam-drin neu esgeuluso;
- y mae ganddo anghenion gofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw rai o’r anghenion hynny ai peidio); ac
- nad yw’n gallu, o ganlyniad i’r anghenion hynny, amddiffyn ei hun rhag cael ei gam-drin neu esgeuluso neu’r perygl o gael ei gam-drin neu esgeuluso.
Oedolyn mewn perygl yw rhywun sydd angen cymorth gyda’i les corfforol neu emosiynol, ac o ganlyniad, yn cael ei ystyried yn agored i niwed. Gallai fod angen cymorth â thasgau byw bob dydd arno. Gallai hyn gynnwys pethau fel ael cymorth i fwyta, gwisgo, rheoli arian neu adael y tŷ.
Ble mae cam-drin yn digwydd?
- gartref
- mewn cartref gofal, ysbyty neu wasanaeth dydd
- yn y gwaith neu’n y coleg
- mewn lle cyhoeddus neu yn y gymuned
Beth yw Cam-drin?
Mae sawl ffurf ar gam-drin (nid yw hon yn rhestr gyflawn):
- Corfforol – (taro, cicio, atal yn afresymol, gorddefnyddio neu gamddefnyddio meddyginiaeth neu gosbau amhriodol).
- Seicolegol / emosiynol – (bygwth niwed neu godi cywilydd, rheoli perthnasau ac ynysu, cam-drin llafar neu hiliol).
- Rhywiol – (gweithgaredd rhywiol dieisiau nad yw’r oedolyn agored i niwed wedi cydsynio iddo/y rhoddwyd pwysau arno i gydsynio).
- Ariannol – (lladrad, twyll neu roi pwysau ynghylch eiddo neu ewyllysiau).
- Esgeuluso – (methiant i fodloni anghenion bob dydd yr oedolyn mewn perygl, methiant i ddefnyddio gofal meddygol neu wasanaethau neu fethiant i roi meddyginiaeth bresgripsiwn).