Cuddio Tudalen Hon
Darllenwch ein cyngor diogelu ar gyfer yr argyfwng Covid-19: Plant | Oedolion

Cam-drin Domestig

Beth yw Cam-drin Domestig?

Mae llawer o wahanol fathau o gam-drin domestig.

Mae diffiniad llywodraeth y DU o drais a cham-drin domestig yn diffinio Cam-drin Domestig fel:

“Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o reoli, gorfodi, ymddygiad bygythiol, trais neu gam-drin rhwng y rhai sy’n hŷn nag 16 oed sydd yn, neu sydd wedi bod yn, bartneriaid neu aelodau teulu agos ni waeth beth fo’u rhywedd neu rywioldeb.”

Mae llawer o wahanol fathau o gam-drin domestig. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • cam-drin emosiynol / seicolegol
  • cam-drin corfforol
  • cam-drin rhywiol
  • Cam-drin ariannol
  • aflonyddu a stelcian
  • rheoli drwy orfodaeth
  • (Mae rheoli drwy orfodaeth yn weithred neu’n batrwm o weithredoedd megis bychanu, codi ofn, bygwth neu gam-drin arall sy’n cael ei ddefnyddio i niweidio, cosbi neu ddychryn dioddefwr. Mae’r ymddygiad wedi’i gynllunio i wneud person yn is-ddibynnol a/neu’n ddibynnol drwy ei ynysu o ffynonellau cymorth a’i atal rhag cael yr hyn sydd ei angen i fod yn annibynnol ac i allu gwrthsefyll a dianc ac i reoleiddio ei ymddygiad bob dydd).

Ar bwy y gall cam-drin domestig effeithio?

Gall cam-drin domestig ddigwydd i unrhyw un, waeth beth fo’i oedran, rhyw, cenedligrwydd, ethnigrwydd, rhywioldeb, statws economaidd neu gefndir.

Mae gwahanol fathau o gam-drin, sy’n gallu digwydd mewn gwahanol gyd-destunau. Mae’r math mwyaf cyffredin o gam-drin domestig yn digwydd mewn perthnasoedd. Ond mae’r diffiniad o gam-drin domestig hefyd yn cynnwys cam-drin rhwng aelodau o’r teulu, megis trais a cham-drin gan bobl ifanc tuag at rieni.

Trais a cham-drin rhieni gan bobl ifanc (APVA)

Unrhyw ymddygiad a ddefnyddir gan berson ifanc i reoli, dominyddu neu orfodi rhieni yw Trais a cham-drin rhieni gan bobl ifanc.   Y bwriad yw bygwth a brawychu ac mae’n peryglu diogelwch teuluoedd.   Gellir cyfeirio at APVA mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys ‘cam-drin rhieni’, ‘cam-drin plentyn i riant’ (CPV), neu ‘syndrom rhiant wedi ei guro’.

Mae APVA yn debygol o gynnwys patrwm ymddygiad, a all gynnwys trais corfforol a mathau eraill o gam-drin tuag at riant (gan gynnwys difrod i eiddo, cam-drin emosiynol, a cham-drin economaidd/ariannol). Gall trais a chamdriniaeth ddigwydd gyda’i gilydd neu ar wahân.

Mae gan rai teuluoedd sydd ag APVA yn digwydd o’u mewn hanes o drais a cham-drin domestig. Mewn achosion eraill gall y trais fod yn gysylltiedig â phroblemau ymddygiadol eraill, camddefnyddio sylweddau, problemau iechyd meddwl, neu anawsterau dysgu.

Yn ogystal â byw mewn ofn ymosod, gall rhieni sy’n cael eu cam-drin gan eu plant ddioddef teimladau o gywilydd a bai, a gallant fod yn amharod i adrodd am y broblem.

Mae’n bwysig bod yr unigolyn sy’n cael ei gam-drin a’r person ifanc sy’n defnyddio ymddygiad camdriniol yn cael y cymorth cywir.

 

Mae animeiddiad ar y mater o animeiddiad o gam-drin domestig i rieni wedi’i gynhyrchu gan Fforwm Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.  Cliciwch yma i weld

 

 

NID YW cam-drin domestig yn dderbyniol. Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, yn dioddef cam-drin domestig, dydych chi ddim ar ein pen eich hun. Mae cymorth a chefnogaeth ar gael. 

 

Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl yn syth, ffoniwch yr Heddlu ar 999.

(ar gyfer cymorth heb siarad deialwch 999 ac yna pwyswch 55 pan fyddwch yn clywed y gweithredydd).

 

 

 

Cymorth a Chefnogaeth

 Gwasanaethau Cymorth Arbenigol Lleol: 

RISE-Caerdydd
Mae llinellau ffôn ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i gynnig cymorth, cyngor a man diogel os oes angen.

Ffôn (029) 2046 0566

Os nad yw’n ddiogel siarad a’ch bod angen dull tawel o gysylltu, gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaethau hyn:

Gwasanaeth testun ar 07723 714 334

gwe-sgwrs yn https://rise-cardiff.cymru

neu gallwch gysylltu â’r tîm drwy e-bostl reception@rise-cardiff.cymru

 

Atal-y-Fro

Mae cymorth ar gael 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos.

Ffôn 0808 80 10 800

https://atalyfro.org/

 

Dioddefwyr Gwrywaidd

Project Dyn

Mae project Dyn Cymru Ddiogelach yn cynnig cymorth i ddynion Heterorywiol, Hoyw, Deurywiol
a Thraws sy’n dioddef cam-drin domestig gan bartner.

Ffôn: 02920 220033 Llun a Maw 10.00 tan 4.00 pm, Mer 10.00 am tan 1.00 pm
E-bost: support@dynwales.org

www.dynwales.org

 

Mankind
Prif elusen yn y DU i gefnogi dynion sy’n dioddef cam-drin.
Llinell gymorth gyfrinachol i bob dioddefwr gwrywaidd o gam-drin domestig a thrais domestig dan law eu partner neu wraig presennol neu flaenorol (gan gynnwys partner o’r un rhyw).
Ffôn: 01823 334244 dydd Llun i ddydd Gwener 10am-4pm
E-bost: admin@mankind.org.uk

www.mankind.org.uk

 

Llinellau Cymorth Cenedlaethol:

Byw Heb Ofn – Llinell Gymorth gan Lywodraeth Cymru yw Byw Heb Ofn, yn cynnig gwybodaeth a chyngor i’r rheiny sy’n dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol a mathau eraill o drais.

Llinell gymorth 24 awr am ddim: 0808 8010 800
info@livefearfreehelpline.cymru
Gwefan: http://bywhebofn.llyw.cymru/

 

 

Dioddefwyr Stelcian

Ynghyd â’r gwasanaethau arbenigol lleol uchod, mae’r gwefannau canlynol hefyd yn cynnig gwybodaeth a chymorth

 

www.suzylamplugh.org

www.stalkinghelpline.org

http://www.protectionagainststalking.org/

 

Llinell Gymorth yr Uned Priodas Dan Orfod
Cyngor a chymorth i ddioddefwyr priodas dan orfod
020 7008 0151

 

Poeni am eich ymddygiad eich hun?


Respect

Ar gyfer y rheiny sy’n pryderu am eu defnydd o drais neu gam-drin:

Ffôn: 0808 802 4040

https://respectphoneline.org.uk/

 

 Adnoddau

Trais Cam-Drin Sy’n Seiliedig Ar Anrhydedd Trais Sy’n Seiliedig Ar  Anrhydedd 

Priodas Dan Orfod 

© BDLP - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd