Noson Wobrwyo i Gydnabod Diogelu 2022
Cynhelir Seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Diogelu Bwrdd Diogelu Caerdydd a’r Fro ddydd Gwener 18 Tachwedd 2022 yn goron ar yr Wythnos Diogelu Genedlaethol.
Cynhelir y Gwobrau i gydnabod y cyfraniadau eithriadol at ddiogelu mewn cyd-destun amlasiantaethol, a rhoi cyfle i gydnabod, amlygu a dathlu cyflawniadau’r rhai sy’n gweithio’n ddiflino i hyrwyddo a chynnal arferion diogelu eithriadol; y math o ymarfer sy’n cael effaith go iawn ar fywydau pobl.
Mae enwebiadau ar agor nawr a bydd yn cau ddydd Gwener 30 Medi 2022.
Y categorïau ar gyfer Gwobrau eleni yw:
- Categori 1: Ymrwymiad eithriadol at ddiogelu plant
- Categori 2: Ymrwymiad eithriadol at ddiogelu oedolion mewn perygl
- Categori 3: Arloesi a gwella ymarfer ym maes diogelu
- Categori 4: Cyfraniad rhagorol at ymarfer diogelu
- Categori 5: Diogelu cymunedol sylweddol ehangach
Os ydych yn dymuno enwebu unigolyn neu dîm sydd, yn eich barn chi, yn cyd-fynd â’r meini prawf ar gyfer categorïau eleni, cysylltwch â’r Uned Fusnes ar gyfer ffurflen enwebu: BDRhCaerdyddarFro@caerdydd.gov.uk